possibly by Dafydd ap Gwilym (c1340 - c1400)
Y Ceiliog Mwyalch
Language: Welsh (Cymraeg)
Y ceiliog mwyalch balchbwyll, Dawn i'th dal, a Duw ni'th dwyll. Cyfion mewn glyn d'emyn di, Cyson o union ynni. Crefyddwr wyd anwydawl, Cerdi fi, croyw yw dy fawl. Gwisgaist, enynnaist annerch, Gwisg ddu, nid er selu serch, Gwisg a ddanfones Iesu Is dail it o sae du, A dwbwl gwell no deuban, Mawr ei glod, o'r mwrrai glan; Sidan gapan am gopa Yn ddu rhoed yn ddiau'r ha', Dwbled harddgled mewn rhedyn Blac-y-lir uwch glandir glyn. Muchudd dy ddeurudd eirian, Pig cwrel gloyw, angel glan. Prydydd wyd medd proffwydi, Cywyddol maenol i mi, Awdur cerdd adar y coed, Esgud cyw mwyndrud meindroed. Os gwyddost yn osgeiddig Annerch gwen dan bren a brig, Os gwn innau o newydd, Sgwir gwawd, ysgwier y gwydd, Ganu moliant a'i wrantu I ti, y ceiliog, wyt du. Du yw dy gwfwl, da ion, A'th gasul, edn iaith gyson. Mydriwr wyd a broffwydais, Medrud son uwch Medrod Sais. Duw a'th gatwo, tro traserch, Adain syw, edn y serch.
Authorship:
- possibly by Dafydd ap Gwilym (c1340 - c1400), "Y Ceiliog Mwyalch", can be found in Dafydd ap Gwilym Apocrypha, 1996 (The Welsh Classics) [author's text checked 1 time against a primary source]
Musical settings (art songs, Lieder, mélodies, (etc.), choral pieces, and other vocal works set to this text), listed by composer (not necessarily exhaustive):
- [ None yet in the database ]
Settings in other languages, adaptations, or excerpts:
- Also set in English, a translation by ? Roberts of Pentre, Reverend [an adaptation] GER ; composed by Ludwig van Beethoven.
Researcher for this text: Emily Ezust [Administrator]
This text was added to the website: 2009-10-04
Line count: 34
Word count: 163