by William Williams Pantycelyn (1717 - 1791)
Arglwydd, arwain trwy'r anialwch
Language: Welsh (Cymraeg)
Arglwydd, arwain trwy'r anialwch, Fi, bererin gwael ei wedd, Nad oes ynof nerth na bywyd Fel yn gorwedd yn y bedd: Hollalluog, Hollalluog, Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan. Agor y ffynhonnau melus 'N tarddu i maes o'r Graig y sydd; Colofn dân rho'r nos i'm harwain, A rho golofn niwl y dydd; Rho i mi fanna, Rho i mi fanna, Fel na bwyf yn llwfwrhau. Pan yn troedio glan Iorddonen, Par i'm hofnau suddo i gyd; Dwg fi drwy y tonnau geirwon Draw i Ganaan -- gartref clyd: Mawl diderfyn. Mawl diderfyn Fydd i'th enw byth am hyn.
Text Authorship:
- by William Williams Pantycelyn (1717 - 1791), "Arglwydd, arwain trwy'r anialwch" [author's text checked 1 time against a primary source]
Musical settings (art songs, Lieder, mélodies, (etc.), choral pieces, and other vocal works set to this text), listed by composer (not necessarily exhaustive):
- [ None yet in the database ]
Settings in other languages, adaptations, or excerpts:
- Also set in English, a translation by Peter Williams (1727 - 1796) ; composed by John Hughes.
Researcher for this text: Emily Ezust [Administrator]
This text was added to the website: 2014-08-25
Line count: 18
Word count: 98