by Dafydd ap Gwilym (c1340 - c1400)
Y Breuddwyd
Language: Welsh (Cymraeg)
Fal yr oeddwn, gwyddwn gel, Yn dargwsg mewn lle dirgel. Gwelais are glais dichlais dydd Breuddwyd yn ael boreddydd. Gwelwn fy mod yn rhodiaw A'm llu bytheiais i'm llaw, Ac i fforest yn gestwng, Teg blas, nid ty taeog blwng. Gollyngwn i yn ddioed, Debygwn, y cwn i'r coed. Clywwn oraiu, lleisiau llid, Canu'n aml, cwn yn ymlid. Ewig wen uwch y llennyrch A welwn, carwn y cyrch, A rhawt fytheiaid ar hynt Yn ei hol, iawn eu helynt; Cyrchu'r allt dros ddiwalltrum, A thros ddwy esgair a thrum, A thrachefn dros y cefnydd Ar hynt un helynt a hydd, A dyfod wedy dofi, A minnau'n ddig, i'm nawdd i; Dwyffroen noeth, deffro wneuthum, Wr glwth, yn y bwth y bum. Cefais hynafwraig gyfiawn, Pan oedd ddydd, yn ddedwydd iawn. Addef a wneuthum iddi, Goel nos, fal y gwelwn i: 'Rho Duw, wraig gall, pei gallud Rhyw derfyn ar hyn o hud, Ni chyfflybwn, gwn ganclwyf, Neb a thi. Anogaith wyf.' 'Da o beth, diobeithiwr, Yw dy freyddwyd, od wyd wr. Y cwn heb gel a welud I'th law, pei gwypud iaith lud, Da hwylwyr diau helynt, Dy lateion eon ynt. A'r ewig wen, unbennes A garud di, hoen geirw tes, Diau yw hyn, y daw hi I'th nawdd, a Duw i'th noddi.'
Text Authorship:
- by Dafydd ap Gwilym (c1340 - c1400), "Y Breuddwyd" [author's text not yet checked against a primary source]
Musical settings (art songs, Lieder, mélodies, (etc.), choral pieces, and other vocal works set to this text), listed by composer (not necessarily exhaustive):
- [ None yet in the database ]
Settings in other languages, adaptations, or excerpts:
- Also set in English, a translation by ? Roberts of Pentre, Reverend [an adaptation] FRE GER ; composed by Ludwig van Beethoven.
Researcher for this text: Emily Ezust [Administrator]
This text was added to the website: 2005-01-17
Line count: 42
Word count: 213